Lyrics & Knowledge Personal Pages Record Shop Auction Links Radio & Media Kids Membership Help
The Mudcat Cafesj



User Name Thread Name Subject Posted
GUEST Lyr Req: plethyn song lyrics (2) RE: Lyr Req: plethyn song lyrics 10 Aug 14


i'm looking for those 2 songs too, but can'y find them. Here's what i have found from the plethyn album Caneuon Gwerin i Blant


4. Fuoch chi 'rioed yn morio?      D
1. Fuoch chi 'rioed yn morio?
Wel do, mewn padell ffrio,
Chwythodd y gwynt fi i'r Eil o Man,
A dyna lle bum i'n crio.

2. Crio'n arw, arw,
Dim byd ond tywydd garw,
Be glywn i'n rhywle uwch fy mhen
Ond gwylan wen yn galw.

3. Gwylan wen yn galw –
Wel wir mae'n biti garw;
Rhaid iti aros hanner dydd
Yn llonydd am y llanw.

4. Llanw'n dwad wedyn,
A'r gwynt yn troi yn sydyn:
Lansio'r badell ar y gro,
A nofio'n ôl i Nefyn.



8. Ble'r wyt ti'n myned?    Am - Dm
1. "Ble 'r wyt ti'n myned yr eneth ffein ddu?"
"Myned i odro, O! Syr." mynte hi.
Cytgan: "O'r ddwy foch goch, a'r ddau lygad du,
Draw wrth droed y mynydd y gwelais i."

2. "Gaf fi ddod gyda thi, yr eneth ffein ddu?"
"Gwnewch fel y mynnoch, O! Syr." mynte hi.   
(Cytgan)
3. "Gaf fi roi cusan iti yr eneth ffein ddu?"
"Beth ydyw hwnnw, O! Syr?" mynte hi.
(Cytgan)
4. "Gaf fi dy briodi yr eneth ffein ddu?"
"Os bydd Mam yn foddlon, O! Syr?" mynte hi.   
(Cytgan)
5. "Beth yw dy ffortiwn yr eneth ffein ddu?"
"Dim ond a welwch, O! Syr?" mynte hi."
(Cytgan)
6. "Yna ni'th briodaf yr eneth ffein ddu."
"Ni ofynnais i chwi, O Syr." mynte hi.
(Cytgan)




9. Ble'r ei di?    C
1."B'le'r ei di, b'le'r ei di yr hen dderyn bach?"
"I nythu fry ar y goeden."
"Pa mor uchel yw y pren?"
"Wel dacw fe uwchben."
"O mi syrthi, yr hen dderyn bach."

2. "B'le'r ei di, b'le'r ei di yr hen dderyn bach?"
"I rywle y dorri fy nghalon."
"Pam yr ei di ffwrdd yn syth?"
"Plant drwg fu'n tynnu'r nyth."
"O drueni, yr hen ddderyn bach."


13. Mi welais Jac y Do    D - G
1. Mi welais Jac y Do   yn eistedd ar ben to
Het wen ar ei ben    a dwy goes bren
Ho ho ho ho ho ho.

2. Mi welais iar fach yr ha    yn mynd i werthu ffa
Fe'i gwerthodd yn rhes ond    collodd y pres
Ha ha ha ha ha ha

3. Hen fwnci bach o Lŷn   a aeth i dynnu'i lun
Edrychodd yn syn a chwarddodd fel hyn
Hi hi hi hi hi hi.

4. Hen geiliog dandi do   a redodd i'r cwt glo
Mi welodd gi mawr a gwaeddodd fel cawr
Go go go go go go.

5. Daeth mochyn bach i'r dre   i chwilio am bwys o de
Fe welodd ful bach yn rhowlio mewn sach
He he he he he he

19. Hen fenyw fach Cydweli       E - G
1. Hen fenyw fach Cydweli   yn gwerthi losin du,
Yn rhifo deg am ddime,   ond unarddeg i mi.
Wel dyna'r newydd ore ddaeth i mi, i mi
Oedd rhifo deg am ddime, Ond unarddeg i mi.

2. Mi es i Faes y Croese, mi ges i groeso mawr,
A fale wedi'u pobi    a stôl i eiste' i lawr:
Wel dyna'r newydd ore ddaeth i mi, i mi,
A fale wedi'u pobi A stôl i eiste' i lawr.

3. Mae gen i fegin newydd   a honno'n llawn o wynt;
Mae'r byd yn gwenu arnaf   fel yn y dyddiau gynt:
Wel dyna'r newydd ore ddaeth i mi, i mi,
Mae'r byd yn gwenu arnaf Fel yn y dyddiau gynt.

20Cysga di fy mhlentyn tlws    Dm - Em
1. Cysga di fy mhlentyn tlws (x 3)
Cei gysgu tan y bore (x 2)

2. Cysga di fy mhlentyn tlws
Wedi cau a chloi y drws
Cysga di fy mhlentyn tlws
Cei gysgu tan y bore (x 2).


21. Deryn y bwn o'r Banna    C/D
1. Deryn y Bwn o'r Banna   Aeth i rodio'r gwylia
Lle disgynnodd o ar ei ben, ar ei ben,
Ond i bwn o fala.

2. Deryn y Bwn a gododd   Y fala i gyd a gariodd
Dros y Banna i farchnad CaerI,
Ac yno'n daer fe'u gwerthodd.

3. Fala fala filoedd, Fala melyn laweroedd;
Y plant yn gweiddi am fala'n groch, fala'n groch,
Rhoi dima goch am gannoedd.

4. Deryn y Bwn aeth adra   Yn ôl dros ben y Banna:
Gwaeddai: "Meistres, O gwelwch y pres,
Gwelwch y pres,    A ges i wrth werthu gala."

22. Heno, heno      A - E
1. Heno, heno, hen blant bach,
Heno, heno, hen blant bach,
Cytgan: Dime, dime, dime, hen blant bach,
Dime, dime, dime, hen blant bach.

2. Gwely, gwely, hen blant bach,
Gwely, gwely, hen blant bach,
(Cytgan)
3. Fory, fory, hen blant bach,
Fory, fory, hen blant bach,
(Cytgan)

23. Dacw Mam yn Dwad      D

1. Dacw mam yn dwad ar ben y Gamfa Wen,
Rhywbeth yn ei ffedog, a phiser ar ei phen.
Y fuwch yn y beudy yn brefu am y llo,
A'r llo'r ochor arall yn chware Jim Cro
Cytgan: Jim Cro Crystyn, Wan, tŵ, ffôr,
A'r mochyn bach yn eistedd mor ddel ar y stôl.

2.Dafi bach a finna yn mynd i Aberdâr,
Dafi'n mofyn ceiliog, a finna'n mofyn giâr,
Dafi bach a finna yn mynd i ffair Llannonn,
Dafi'n hela dimai a finna'n prynu ffon.
(Cytgan)
3.Shoni brica moni yn berchen buwch a llo,
A gafar fach a mochyn a cheiliog go-go-go.
A cheiliog bach y dandi yn crio trwy y nos
Eisie benthyg ceiniog i brynu gwasgod goch.
(Cytgan)


25. Bonheddwr mawr o'r Bala      D - F
1. Boneddwr mawr o'r Bala
Ryw ddiwrnod aeth i hela
Ar gaseg denau ddu (x2)
Cytgan: Ho-ho-ho-ho, ho-ho-ho-ho, Ar gaseg denau ddu (x2)

2.Carlamodd yr hen gaseg
O naw o'r gloch tan ddeuddeg
Heb unwaith godi pry.
Cytgan: Ho-ho-ho-ho, ho-ho-ho-ho, Heb unwaith godi pry (x2)

3. O'r diwedd cododd lwynog
Yn ymyl tý cymdog,
A'r corn a rododd floedd.
(Cytgan)
4. Yr holl fytheid redasant
A'r llwynog coch ddaliasant,
Ond ci rhyw ffarmwr oedd.
(Cytgan)


Post to this Thread -

Back to the Main Forum Page

By clicking on the User Name, you will requery the forum for that user. You will see everything that he or she has posted with that Mudcat name.

By clicking on the Thread Name, you will be sent to the Forum on that thread as if you selected it from the main Mudcat Forum page.

By clicking on the Subject, you will also go to the thread as if you selected it from the original Forum page, but also go directly to that particular message.

By clicking on the Date (Posted), you will dig out every message posted that day.

Try it all, you will see.