Or indeed, the transmission might have been the other way… Anyway, after further research, I found this: like the pirates in the Asterix books, it seems the parody has become better known than the original: Rheolau yr Aelwyd (Rhowch broc i’r tan) Ar ol bod trwy'r dydd yn llafurio A'r morthwyl, y trosol, neu'r rhaw, A dioddef eich gwlychu a'ch curo Gan genllysg a gwyntoedd a gwlaw; 'Rol cyrraedd eich bwthyn eich hunan, Mor ddifyr fydd cau'r drws yn hy, A'r oerfel a'r t'w'llwch tu allan, A'r cariad a'r tan yn y ty; Rhowch broc i'r tan, A chanwch gan, I gadw cwerylon o'r aelwyd lan. Pan fyddo y gwr wedi monni, A'i weflau'n lled lipa i lawr, A'i lygaid gan dan yn gwreichioni, A'i drwyn braidd yn hir ac yn fawr; Edryched y gwragedd dan wenu, A pheidiwch dweyd gair wrtho fe, Daw amser a'r gwr at ei ganu, A'r gweflau a'r llygaid i'w lle. Rhowch, &c. Os bydd rhai o'r gwragedd ar brydiau Yn edrych yn sarrug a sur, A'u llygaid fel cwmwl taranau Yn lluchio y mellt at y gwyr; Mae cariad yn well yn y diwedd Ar ol bod mewn helbul ei hun, 'Dyw'r mellt sydd yn llygaid y gwragedd Erioed wedi lladd yr un dyn. Rhowch, &c. Pan fyddo yr aelwyd yn oeri, A'r anwyd yn dyfod i'r gwaed, Pan fyddo y trwyn wedi rhewi, A'r winrhew ar fysedd y traed, Pan fo Catherine Anne wedi briwo, A Dafydd y gwas ddim yn iach, A'r babi yn nadu a chrio, A'r gath wedi crafu John bach, Rhowch, &c. How many are familiar with this part of the story?
|