Here's my transcription of the lyrics from the songbook that Ceri sent me photos of - apologies in advance for errors and infelicities of punctuation,as well as for the ruthless treatment of the tidl a-dl dai refrain. Blewyn glas ar ddole Teifi Tidl a-dl dai Dwyllodd lawer buwch i foddi Tidl a-dl dai Tidl a-dl do Llawer merch a ‘nhwyllodd inne O’r union ffyrdd i’r anial lwybre Beth wy’n hidio gweled bachgen Yn treto ‘nghariad yn fy nghefen? Ei weld e’n llanw glasied iddi Finne’n ddigon siwr ohoni Petawn ddim ond cael y cyfle Tretawn i ei gariad ynte! Rhoddaf goron wen i’r ‘ffeirad Am roi cwlwm sownd â’m cariad Coron wedyn i’r un person Gael fy nwylo bach yn rhyddion! ‘Rown i’n rhodio rhyw foreuddydd Rhwng y glaswellt a’r mân goedydd Cwrddyd wnes â hen gymydog Un o’r bradwyr dauwynebog Cynta’ peth ofynnais iddo “Sut mae caru merch a’i chario?” “Rho di heibio’i chwmni flwyddyn,” “Daw i’th garu bob yn ronyn,” Fe wnes gyngor ‘r hen ffwl hynny, Am flwyddyn rhois i heibio’i chwmni Es i’n ôl ymhen y flwyddyn Gan feddwl cawn ei chwmni wedyn Y ferch atebsai, ‘n hawdd ei deall, “Ffaelest ti â chael neb arall?” “Cer di ‘mhell! Na ddeua’n agos!” “Rwy’n priodi cyn pen wythnos!” Un ferch arall nid wy’n ‘mofyn, Hi oedd ‘y nghariad er yn blentyn Es i’r ardd i ddewis powsi Heibio’r “Lemons”, heibio’r lili, Heibio’r “Pink” a’r “New Carnation” Powsi ges o ddynad poethon Rhosyn gwyrdd yng ngardd y gardner Ac enw hwn yw “Caru’n Ofer”
|