That's Robin Huw Bowen, Arfon Gwilym, and Sioned Webb singing on your link. Plygain is NEVER sung with instrumental accompaniment ... when intended as true plygain. I suppose some have been adopted by other traditions and may involve instruments but, to my ears, those never sound 'right'. Here are the words: Ar gyfer heddiw’r bore ’n faban bach, faban bach, Y ganwyd gwreiddyn Jesse ’n faban bach; Y Cadarn ddaeth o Bosra, Y Deddfwr gynt ar Seina, Yr Iawn gaed ar Galfaria ’n faban bach, faban bach, Yn sugno bron Maria ’n faban bach. Caed bywiol ddwfr Eseciel ar lin Mair, ar lin Mair, A gwir Feseia Daniel ar lin Mair; Caed bachgen doeth Eseia, ’R addewid roed i Adda, Yr Alffa a’r Omega ar lin Mair, ar lin Mair; Mewn côr ym Methle’m Jiwda, ar lin Mair. Diosgodd Crist o’i goron, o’i wirfodd, o’i wirfodd, Er mwyn coroni Seion, o’i wirfodd; I blygu’i ben dihalog O dan y goron ddreiniog I ddioddef dirmyg llidiog, o’i wirfodd, o’i wirfodd, Er codi pen yr euog, o’i wirfodd. Am hyn, bechadur, brysia, fel yr wyt, fel yr wyt, I ’mofyn am dy Noddfa, fel yr wyt I ti’r agorwyd ffynnon A ylch dy glwyfau duon Fel eira gwyn yn Salmon, fel yr wyt, fel yr wyt, Gan hynny, tyrd yn brydlon, fel yr wyt. sian, west wales
|