So, I'm guessing the song is written in Welsh - there are Welsh aunts in Chicago? They sound like the stereotypical ethnic Chicago aunts ofm Polish and Serbian and Italian and Jewish and a jillion other ancestries. The song is a real kick.
So, what's a Gymanfa session? I may have to head up to Oregon for this!
-Joe in Colfax, California-
I'm going to post the words from the link, just to ensure they don't get lost if the link dies.
Anti Henrietta o Chicago
(W.R. Evans)
Mae gennyf anti sydd yn byw yr ochor draw i'r dŵr,
Anti Henrietta o Chicago;
A phan ddaw atom i roi tro, 'rwy'n ofni'i gweld, bid siwr,
Anti Henrietta o Chicago.
Cytgan:
Hen fenyw ffein ydyw hon, cofiwch chi,
Hen fenyw garedig, a llawn o hwyl a sbort a sbri,
Ond pan ddaw atom i roi tro, 'rwy'n treio cadw draw,
Anti Henrietta o Chicago.
Dyw Henrietta byth yn dweud "Shwt ych chi" neu "Hylo",
Anti Henrietta o Chicago;
Ond dyry glamp o gusan i'r holl deulu yn eu tro.
Anti Henrietta o Chicago.
Cytgan:
Hen fenyw ffein ydyw hon, cofiwch chi,
Hen fenyw garedig, a llawn o hwyl a sbort a sbri,
Ond pan ddaw atom i roi tro, 'rwy'n treio cadw draw,
Anti Henrietta o Chicago.
Fe fyddai'n well pe bai yn dweud "So long nawr" neu "Gwd-bei"
Anti Henrietta o Chicago;
A choeliwch fi neu beidio, ond mi af yn eithaf shei.
Anti Henrietta o Chicago;
Cytgan:
Hen fenyw ffein ydyw hon, cofiwch chi,
Hen fenyw garedig, a llawn o hwyl a sbort a sbri,
Ond pan ddaw atom i roi tro, 'rwy'n treio cadw draw,
Anti Henrietta o Chicago.
Pan roddo gusan 'rwyf yn cau fy llygaid yn hold ffast,
Anti Henrietta o Chicago;
Ac wedi iddi orffen 'rwyf yn esgus galw'r ast.
Anti Henrietta o Chicago;
Cytgan:
Hen fenyw ffein ydyw hon, cofiwch chi,
Hen fenyw garedig, a llawn o hwyl a sbort a sbri,
Ond pan ddaw atom i roi tro, 'rwy'n treio cadw draw,
Anti Henrietta o Chicago.
Mae arni drwch o lipstic fel pob merch sy'n torri dash;
Anti Henrietta o Chicago;
Bydd smotiau coch o dan fy nhrwyn yn gymysg a'm mwstash.
Anti Henrietta o Chicago;
Cytgan:
Hen fenyw ffein ydyw hon, cofiwch chi,
Hen fenyw garedig, a llawn o hwyl a sbort a sbri,
Ond pan ddaw atom i roi tro, 'rwy'n treio cadw draw,
Anti Henrietta o Chicago.
Peth cas yw derbyn cusan pan foch chi yng nghanol crowd,
Anti Henrietta o Chicago;
Ond dyna arfer Anti, ac fe'i gwna yn eithaf prowd.
Anti Henrietta o Chicago;
Cytgan:
Hen fenyw ffein ydyw hon, cofiwch chi,
Hen fenyw garedig, a llawn o hwyl a sbort a sbri,
Ond pan ddaw atom i roi tro, 'rwy'n treio cadw draw,
Anti Henrietta o Chicago.
Ni waeth pa beth a wisgaf i, ai rhacs ai cordiroi,
Anti Henrietta o Chicago;
Fe ddyry Anti gusan mawr gan ddwedyd "Lovely boy".
Anti Henrietta o Chicago;
Cytgan:
Hen fenyw ffein ydyw hon, cofiwch chi,
Hen fenyw garedig, a llawn o hwyl a sbort a sbri,
Ond pan ddaw atom i roi tro, 'rwy'n treio cadw draw,
Anti Henrietta o Chicago.
Ac er ei bod yn rhoddi imi cigarettes galore,
Anti Henrietta o Chicago;
'Rwy'n diolch am Atlantic mawr, a phellter maith y mor.
Anti Henrietta o Chicago;
Cytgan:
Hen fenyw ffein ydyw hon, cofiwch chi,
Hen fenyw garedig, a llawn o hwyl a sbort a sbri,
Ond pan ddaw atom i roi tro, 'rwy'n treio cadw draw,
Anti Henrietta o Chicago.
Pan af a hi i ddal y tren, i'r stesion yn y trap,
Anti Henrietta o Chicago;
O flaen y guard a'r swancs i gyd, mae'n rhoddi cusan, slap!
Anti Henrietta o Chicago;
Cytgan:
Hen fenyw ffein ydyw hon, cofiwch chi,
Hen fenyw garedig, a llawn o hwyl a sbort a sbri,
Ond pan ddaw atom i roi tro, 'rwy'n treio cadw draw,
Anti Henrietta o Chicago.
Fe fyddai'n fendith pe bai hi yn gallu ffeindio gŵr,
Anti Henrietta o Chicago;
A rhoi ei maldod sofft i gyd i hwnnw, hwnt i'r dŵr.
Anti Henrietta o Chicago;
Cytgan:
Hen fenyw ffein ydyw hon, cofiwch chi,
Hen fenyw garedig, a llawn o hwyl a sbort a sbri,
Ond pan ddaw atom i roi tro, 'rwy'n treio cadw draw,
Anti Henrietta o Chicago.
W. R. Evans
Source: http://www.caneuongwerin.co.uk/anti_henrietta.html