The Mudcat Café TM
Thread #102439 Message #2076355
Posted By: Rapparee
13-Jun-07 - 09:54 PM
Thread Name: BS: How are the wabes where you live?
Subject: RE: BS: How are the wabes where you live?
Mae'n brydgell ac mae'r brochgim stwd Yn gimblo a gyrian yn y mhello: Pob cólomrws yn féddabwd, A'r hoch oma'n chwibruo.
'Gwylia'r hen Siaberwoc, fy mab! Y brathiad llym a'r crafanc tynn! A rhed pan weli'r Gwbigab A'r ofnynllyd Barllyn!'
Cym'rodd ei gleddyf yn ei law I geisio ei fanawaidd brae-- A gorffwys ger y goeden Taw, I feddwl--fel pe tae.
A thra pendronai ymhlith y coed Y Siaberwoc a'i lygaid fflam A ddaeth, mor wallgof ag erioed Gan ffrwtian gam a cham!
Un, dau! Un, dau! drwy'r awyr oer Aeth min y cledd ysgiw, ysgôl! Fe'i lladdodd, a chan gludo'i ben Hwblamodd yn ei ôl.
'A lleddaist ti y Siaberwoc? Tyrd yma, hapllon fachgen! O jiwblus ddydd! Hwrê! Hwroc!' Gan wenu arno'n llawen.
Mae'n brydgell ac mae'r brochgim stwd Yn gimblo a gyrian yn y mhello: Pob cólomrws yn féddabwd, A'r hoch oma'n chwibruo.