The Mudcat Café TM
Thread #114217   Message #2435732
Posted By: Nigel Parsons
09-Sep-08 - 07:43 PM
Thread Name: Lyr Add: Myfanwy (Welsh song by Joseph Parry)
Subject: Lyr Add: MYFANWY (Davies, Parry)
It seems that this great Welsh love song (by Joseph Parry) does not appear on Mudcat. An omission I intend to correct:

MYFANWY
(Welsh words by Richard Davies, music by Joseph Parry)

Paham mae dicter, O Myfanwy,
Yn llenwi'th lygaid duon di?
A'th ruddiau tirion, O Myfanwy,
Heb wrido wrth fy ngweled i?
Pa le mae'r wên oedd ar dy wefus
Fu'n cynnau 'nghariad ffyddlon ffôl?
Pa le mae sain dy eiriau melys,
Fu'n denu'n nghalon ar dy ôl?

Pa beth a wneuthum, O Myfanwy,
I haeddu gwg dy ddwyrudd hardd?
Ai chwarae oeddit, O Myfanwy
 thanau euraidd serch dy fardd?
Wyt eiddo im drwy gywir amod-
Ai gormod cadw'th air i mi?
Ni cheisiaf fyth mo'th law, Myfanwy,
Heb gael dy galon gyda hi.

Myfanwy boed i holl dy fywyd
Fod dan seren ddisglair ganol dydd.
A boed i rosyn gwridog iechyd
I ddawnsio ganwaith ar dy rudd.
Anghofiaist oll o'th addewidion
A roist i minnau,eneth ddel,
A dyro'th law, Myfanwy dirion
I ddim ond dweud y gair "Ffarwél".