The Mudcat Café TM
Thread #136869   Message #3128999
Posted By: sian, west wales
05-Apr-11 - 10:31 AM
Thread Name: Lyr Req: Y Gwylliaid
Subject: RE: Lyr Req: Y Gwylliaid
Found it:

Cytgan :

Y Gwylliaid yn y gwydd
dewch ynghyd, dewch ynghyd
Y Gwylliaid yn y gwydd
dewch ynghyd
Y Gwylliaid yn y gwydd
Rhaid taro 'ngolau dydd
I gadw'n traed yn rhydd
Mae hi'n bryd, mae hi'n bryd
I gadw'n traed yn rhydd
Mae hi'n bryd

Y gyfraith roes y gair
gyda rhaff, gyda rhaff
Y gyfraith roes y gair
gyda rhaff
Y gyfraith roes y gair
A byddwn Ddygwyl Mair
Yn crogi yn y ffair
ddigon saff, ddigon saff
Yn crogi yn y ffair
ddigon saff

(Cytgan)

Mae clogyn Rowland Lee
i'w foddhad, i'w foddhad
Mae clogyn Rowland Lee
i'w foddhad
Mae clogyn Rowland Lee
Yn goch o'n gwaedu ni
O fwrdro caiff ei sbri
yn ein gwlad, yn ein gwlad
O fwrdro caiff ei sbri
yn ein gwlad

(Cytgan)

Ni all deddfau du a gwyn
ladd y gwir, ladd y gwir
Ni all deddfau du a gwyn
ladd y gwir
Ni all deddfau du a gwyn
Fyth dorri'r bobl hyn
Fe gadwn gof ynghyn
drwy ein tir, drwy ein tir
Fe gadwn gof ynghyn
drwy ein tir

(Cytgan)

sian