Sorry to dig up this thread, but I've been looking in the Welsh newspaper archive for Hob Y Deri Dando lyrics and there are quite a few versions, although it isn't always clear that they are songs rather than poems.
This one seems fairly complete from 1894:
Bu'm yn caru lodes landeg Hob a diri dando, Beunydd ar ei hoi yn rhedeg- Dyna ganu eto; Tybiais hon yn rhosyn Saron- Sian, fwyn Sian, Troes yn waeth na dalen poethion- Sian fwyn, mawr fu fy nghwyn Am danat ti, fy ngeneth fwyn.
Ar ryw noswaith deg yn llawen- Hob a diri dando, Rhodiwn gyda'r feinir fwynwen- Dyna ganu eto; Rhoes fy mraich yn dyn am dani- Sian, fwyn Sian, Melus odiaeth oedd ei chwmni- Sian fwyn, main yw dy drwyn, Mae'th lygaid fel dwy seren fwyn.
Gwenai Sian yn lion a siriol- Hob a diri dando, Aethum innau yn fwy gwrol- Dyna ganu eto; Ac ymdrechais gyrhaedd cusan- Sian, fwyn Sian, Heb fawr feddwl digio'm rhian- Sian fwyn, mawr fydd fy nghwyn Os digio wnai, fy ngeneth fwyn.
Ond, cell, fi hi waeddai'n filain- Hob a diri dando, "You have crushed my bonnet, villain"- Dyna drwbwl eto; Gwaeddais innau yn fy nghiedi, Ow, Sian fwyn, Aros mi rof dal am dani- Sian fwyn, ystyria 'nghwyn, Fe wnaf unpeth er dy fwyn.
Ar ei hoi canlynais encyd- Hob a diri dando, Gau dd'weyd, "Gwrando, fy anwvlyd" Dyna ganu eto; Dyma gefais i'm cysuro- Ow, Sian fwyn, "Now, begone, you clumsy fellow;"- Sian fwyn, cam yw dy drwyn, Mae'th lygaid fel dwy ganwyll frwyn.
Wei, ffarwel y ferch dafod ddrwg- Hob a diri dando, Dim i mi yw'th wen a/th gilwg- Dyna ganu eto; Gallaf fyw yn eithaf hebot- Sian, fwyn Sian, Nid wy'n hidio nydwydd ynot- Sian fwyn, gad fi i 'nghwyn, Rhed dithau'n syth ar ol dy drwyn.
Ar fy mawd rhois glee yn wrol- Hob a diri dando, A dychwelais adre'n siriol- Dyna ganu eto; Cymerais Iw cyn myn'd i 'ngwely- Sian, fwyn Sian, Nad awn byth at ferch ond hyny- Sian fwyn, darfu 'nghwyn A'r cur a gefais er dy fwyn.
I. G. Ab DAFYDD.
I am no good at singing in Welsh, but this seems to fit the tune I know.
from here: http://newspapers.library.wales/view/3587374/3587387/29
I have also found much older uses of the phrase Hob Y Deri Dando but the structure of the song/poem seems different.