Here it is in Welsh - see the new cd by Parti Cut Lloi for a recorder version. Hwyl, Chris HEN GLOC FY NHAID (MY GRANDFATHER'S CLOCK) Ar fore dydd calan pan anwyd fy nhaid, Prynwyd cloc wyth niwrnod o'r dre' Gan ei fod yn rhy hir, yn ddioed fe fu raid Iddo sefyll yn syth yn ei le. Ac yng nghornel y gegin fe safai drwy ei oes, Byth yn ffyddlon a hawddgar ei wedd, Ond bu'n fud yng nghornel y gegin fach Er pan glydwyd yr hen w^r i'w fedd. Cytgan: Cadw'r amser heb golli dim, tic toc, tic toc, Pob eiliad a rhoddai i'm, tic toc, tic toc Bu'n fud yng nghornel y gegin fach Er pan gludwyd yr hen w^r i'w fedd. Trwy gydol ei oes, llawenydd a loes, Cadwodd gwmni a'r cloc ger y tan, Pan yn fachgen yn chwilio am gysur ei oes, Byddai'r cloc yn parhau i rhoi can. Canodd bedwar ar hugain pan welodd yr hen gloc, Y llanc yn dod gyda gwraig hardd ei gwedd, Ond bu'n fud yng nghornel y gegin fach Er pan gludwyd yr hen w^r i'w fedd. Cytgan : Fe ganodd y gloch yn nhawelwch y nos A fy nhaid ar ei wely yn fud, Gwelwyd arwydd yn eglur fod angel uwchben Wedi dyfod I'w arwain o'r byd. Roedd 'rhen gloc fel petai wedi amau fwy neu lai Fod 'rhen w^r wedi huno mewn hedd, Ond bu'n fud yng nghornel y gegin fach Er pan gludwyd yr hen w^r i'w fedd.
|