The Mudcat Café TM
Thread #28483 Message #1140994
Posted By: Chris in Wheaton
19-Mar-04 - 11:39 AM
Thread Name: Lyr Req: Sweet Jenny Jones (Morris Dance)
Subject: Lyr Add: CADAIR IDRIS (Welsh)
The Welsh version below - I think both versions need a good chorus, not just a repeat of the last line. Any suggestions? (Also if you google around there is a cool Morris Dance video with the tune.) Something like a chorus starting with "Oh, I love the Valleys, and I've seen the World..........." but I'm no expert....... Chris yn Wheaton
CADAIR IDRIS - Ceiriog
Bu+m innau'n rhodianna yn Nyffryn Llangollen, Yn dringo y mynydd i Gaer Dinas Bra+n. Yn edrych i fyny at Gynwyd a Chorwen, A mynydd Rhiwabon yn deifio gan da+n. Mi a welais la+n ddyfroedd, aberoedd y Berwyn, A da ardal Dyfrdwy ar aswy a de; Ond mi welais la+n fwthyn, nis gwn i beth wedyn, Nis gallwn i weled dim byd ond efe.
Disgynnais o'r Castell, a chroesais yr afon, Fel curai fy nghalon anghofiaf fi byth; Ac fel heb yn wybod i'm traed ar fy union, At dy+ Jenny Jones ymgyfeiriais yn syth. Ac er iddi eistedd ymysg ei chwiorydd, A'i thad wrth ei hochor yn siarad a+ mi, Gyda'i brad o'r tu arall, nis gwn i mo'r herwydd, Nis gallwn i weled neb byw ond hyhi.
Yn eglwys Llangollen tra'r clychau yn canu, Os aethum yn wirion mi wn pwy a'm gwnaeth; Unasom a'n gilydd byth byth i wahanu, Yn dlawd neu'n gyfoethog, yn well neu yn waeth. Mae'n dda gennyf bobpeth, 'n enwedig fy hunan, Mae Jenny yn gwybod yn well na myfi; Mae yn dda gennyf ganu, mae'n dda gennyf arian, Ond nis gallaf garu dim byd heblaw hi.