The Mudcat Café TM
Thread #141578   Message #3259172
Posted By: Nigel Parsons
18-Nov-11 - 04:58 AM
Thread Name: Folk Songs: Flintshire & Vale of Clwyd
Subject: Lyr Add: Y Blotyn Du
Y Blotyn Du


1.        Gwrandewch ar stori greulon,
Fu gynt yng ngwlad y Saeson,
Gerllaw Caerau Pentre caer,
O fewn i Gornwal dirion.

2.        Hen ^wr oedd yno'n tario,
A'i blant o'i ddeutu'n trigo,
A'i fab hynaf yn ddiwad
A'i fwriad ar drafaelio.

3.        I'r môr fe fynnai fentro,
Yn brentis ca'dd ei rwymo,
Dros saith mlynedd efo'r Black Prince,
Nis gwyddai ei ffryns oeddi wrtho.

4. Bu hefyd dri saith gaua'
Ar gost y Twrc a'r India.
Yn 'speilio'r gw^yr a'u taflu i'r môr,
'Nol dwyn eu trysor pena.'

5. Ca'dd dywydd drwg, aniddan,
Daeth gwynt yn groes i'w amcan,
A daeth y llong mewn cyflwr gwael
I'r lan i Gornwal hafan.

6. I d^y ei chwaer fe gerddai,
Fel dieithr fe ofynai,
A oes trafailiwr i chwi'n frawd?
A ydyw'r cymrawd gartre'?

7. Mae i mi frawd, gobeithio,
A'i Fwriad ar drafaelio,
Ac ar ei fraich mae Blotyn Du,
Nis gwn beth ddarfu iddo.

8. Fi yw'r trafailiwr caled,
A'r Blotyn Du sy i'w weled,
Pa sut mae hynt fy mam a nhad,
Pa sut mae'r stad yn 'stiyried ?

9. mae'r stad yn ddifai ddigon,
Pob rhodd sy'n rhwym a graslon,
Ond ei bod yn mynd yn feth,
Ae arni beth dyledion.

10. Dywedodd yntau, Ymroaf
I wneud bob brys a allaf;
Bore fory mi goda'n llon,
A'i holl ddyledion dalaf.

11. I d^y ei dad fe gerddai,
Fel dieithr fe letyai,
Fe ro'i ei gôd i wraig y ty,
I'w chadw hyd y boreu.

12. Y g^wr a'r wraig ddywedai'n isel,
Ni gawsom hyn mewn gafael;
Mae gennym ddigon ar ein tro,
Ond inni ei fwrdro'n ddirgel.

13. Tra'r mab yn tawel huno,
A'r gyllell gwnant ei fwrdro,
A'r fam ei hun yn dal mewn pwyll
Y ganwyll i'w lofruddio.


14. I'r daflod wair hwy'i taflent,
Ac yno hwy a'i gadwent,
Nes caent hwy le mewn dirgel fan,
Ro'i ddwyrudd dan ddaeren.

15. A'r chwaer ddoi yno'n foreu,
A phob rhyw faeth a moethau,
I roeso ei hanwyl frawd i'r wlad,
A'm dano i'w thad gofyynnai.

16. Pwy frawd wyt ti'n ymofyn ?
Nis bu yma neithiwr udyn;
O! do yn wir, na wadwch ddim,
Dangosodd i mi'r Blotyn.

17. Dechreuai'r hen ^wr dyngu,-
Pwy felldith a ddaeth inni?
Os lleddais i fy Mab fy Hun !
Dof finnau i'r un dihenydd.

18. A'r wraig d'wedai hithau,
Os fi fu'n dala'r golau,
E' gaiff y gyllell yr un wedd,
I wneud fy niwedd innau.

19. Pan welai'r ferch dri'n gelain,
Mewn dychryn y gwnai ochain,
I maes o'i phwyll yr aeth tra fu,
gan faint y ddu gyflafan.

20. Mae hanes y gyflafan,
A diwedd teulu cyfan,
Yn wers ryfedd i ni gyd.
Rhag caru'r byd a'i arian.

21. O Gymry anwylm gwelwch
Ddrygioni Ariangarwch,
Rhag eich hudo gan y chwant,
Yn wir ddiffuant, gwyliwch.





X: 1
T: Y Blotyn Du
M: 4/4
L: 1/4
C: Traditional
Z: NP 17/11/2011
K: G
(G>A) | B B (A/B/) c | B !fermata!A (G>A) | B B (G/A/) c | B !fermata!A2 z | B B d d | d d c>c | B B A>B | A !fermata!G ||
w: Gwran-*dewch ar stor-*i greul-on, Fu_ gynt yng ngwlad_ y Saes-on, Ger-llaw Caer-au Pen-tre Caer, O fewn i Gorn-wal dir-ion.


Sung by the late Mrs mark Owen, Rhuddlan, May 1911. This is a great favourite in Wales. I have heard it sung to four different tunes in Flintshire. the words of the ballad are still sold by pedlars. Llew tegid found a most interesting localised tradition on which this ballad was supposed to be founded i Llansannan. Mr J H Davies has written a full account of "Y Blotyd Du" in "Cymdeithas Llen" series, Vol IV., and an account has also appeared in the transactions of the welsh Biographical Society. See also "Welsh Folksong Journal" Vol.1 p.35