The Mudcat Café TM
Thread #141578   Message #3259207
Posted By: Nigel Parsons
18-Nov-11 - 06:03 AM
Thread Name: Folk Songs: Flintshire & Vale of Clwyd
Subject: Lyr Add: Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf
Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf

Dydd da fo i ti, seren oleu,
Lliw gwyn rhosyn yr haf!
Tydi yw'r gywrain ferch a gara'i,
Lliw gwyn rhosyn yr haf!
Wel, cau dy gêg yr hen oferddyn,
Y casa fu 'rioed ar wyneb y tir!
Mi groga fy hun cyn dof i'th ganlyn
Mewn gair dyna i ti'r gwir!

Mae dy gusan di, f'anwylyd,
Lliw gwyn rhosyn yr haf!
'Run fath a diliau mêl bob munud,
Lliw gwyn rhosyn yr haf!
Ac felly mae dy gusan dithau
Y casa fu 'rioed ar wyneb y tir!
Yn ail i gamameil i minnau,
Yr hen gêg, dyna i ti'r gwir!

Os wyt ti'n mynd i'm troi i heibio,
Lliw gwyn rhosyn yr haf!
Wel, dyro gusan cyn ffarwelio,
Lliw gwyn rhosyn yr haf!
Wel, waeth im' ddweyd y gwir na pheidio,
Y mwynaf erioed ar wyneb y tir!
Cest ddwy o'r blaen, cei bymtheg eto
Mewn gair dyna i ti'r gwir!

Wel, moes im' wybod, Gwen lliw'r manod,
Lliw gwyn rhosyn yr haf!
Pam 'roet ti gynt mor ddrwg dy dafod,
Lliw gwyn rhosyn yr haf!
I ddangos moddau merched meddal,
Y mwynaf fa 'rioed ar wyneb y tir,-
Yn gwaeddi paid, ac eto'n gadael,
Yr hen gêg dyna i ti'r gwir!

F'anwylyd bach, a wnei di fentro
Lliw gwyn rhosyn yr haf!
Yr oreu fu ar dir yn tario,
Lliw gwyn rhosyn yr haf!
Os medra'I gyrraedd fy hen gariad,
Y mwynaf fu 'rioed ar wyneb yr tir!
Amen, Amen ! a dyna 'nymuniad,
Mewn gair dyna I ti'r gwir!

X: 1
T: Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf
M: 6/8
L: 1/8
C: Traditional
Z: NP 04/11/2011
K: Ab
!mp!F | c2 c c2 c | B2 A A2 G | F3 A3 | B A G F2 F | c2 c c2 c | B2 A A2 G | F3 A3 | B A G !fermata!F2 !f! c | c2 =d e2 d | c2 =d e e d | c =d e e2 f | f e =d !fermata!c2 A | B B c A2 A | B2 A A2 G | F3 A3 | B A G !fermata!F2||
w: Dydd da fo i ti, ser-en ol-eu, Lliw gwyn rhos-yn yr haf! Ty-di yw'r gyw-rain ferch a gar-a'i, Lliw gwyn rhos-yn yr haf! Wel, cau dy gêg yr hen o-fer-ddyn, Y cas-a fu 'rioed ar wyn-eb y tir! Mi grog-a fy hun cyn dof i'th gan-lyn Mewn gair dyna i ti'r gwir!


notes: Sung by Mrs Jane Williams, Holywell, 1912. For variants see "Welsh Folksong Journal" Vol.1 pp 85 & 86. The words are very well known, and are by Richard Williams, Bardd Gwagedd.