Oh, Dai. You say the sweetest things ... ! I've gone all wobbly over you!Anyhoooo,
Ffarwél fo i Langyfelach lon
A'r merched ieuainc i gyd o'r bron;
'Rwy'n mynd i dreio pa un sydd well,
Ai 'ngwlad fy hun neu'r gwledydd pell.
A martsio wnes i yn y blaen
Nes imi ddod i dre Pontfaen
Ac yno 'roeddent fawr eu sbort
Yn listio'r gwy^r at y Duke of York.
Mi droes fy mhen ac i ryw dy^,
Yr aur a'r arian oedd yno'n ffri
Y dryms a'r ffeiffs yn cario'r sw^n -
A listio wnes at y Light Dragoon.
'Rôl imi fartsio i Lundain fry,
Diwti caled ddaeth arnom ni,
Sef, handlo'r dryll a'r cleddyf noeth,
Y bwlets plwm a'r powdwr poeth.
Fe ddaeth despatch yn fore iawn,
A daeth un arall y prynhawn,
Fod yr English fleet ynhwylio i ma's
I frwydr dros y moroedd glas.
Ffarwél fy nhad a'm hannwyl fam,
Sydd wedi'm magu a'm dwyn i'r lan
Yn dyner iawn ar aelwyd lân,
A chan ffarwél fo i'r merched glân.
******************
Os hola rhai pwy wnaeth y gân,
Atebwch hwy mai merch fach lân
Sydd yn gweddio nos a dydd
Am i'w hannwyl gariad gael dod yn rhydd.
'Rôl imi aros amser hir,
Yn rhydd y daeth, 'rwy'n dweud y gwir;
Dychwelodd ef i'w fro ei hun,
Ces roddi cusan ar ei fin.
Fe ddaeth ag arian ganddo'n stôr
O'r gwledydd pell tu draw i'r môr,
A'r cyntaf peth a wnaeth o'i serch
Oedd chwilio am ei annwyl ferch.
Offeiriad alwyd yno'n glau
I'n rhwymo ni yn un ein dau;
Cawn fyw mewn llwyddiant drwy ein hoes
A chysgaf rhwng ei freichiau'r nos.
Cymerwch gyngor, ferched llon,
Os aiff eich cariad dros y don:
I geidio rhodio'n wamal ffôl,
Ond byddwch driw nes try yn ôl.
Mi gefais gynnig lawer gwaith,
Do, ar gariadon, chwech neu saith
Ond, coeliwch fi, 'roedd ganmil gwell
Im gofio'r mab yn y gwledydd pell.
Fe aeth â'm calon gydag e,
Ond eiddo'i hun rodd yn ei lle,
A deddf atyniad cariad cun
A wnaeth ein c'lonnau bach yn un.
As you PROBABLY KNOW (ahem) the verses before the **** are from the soldier's point of view, the others are from the girlfriend's.
Sian