None of the words are a precise translation, but the original is Welsh.
AR HYD Y NOS
(trad)
Holl amrantau'r sêr ddywedant
Ar hyd y nos
Dyma'r ffordd i fro gogoniant
Ar hyd y nos.
Golau arall yw tywyllwch
I arddangos gwir brydferthwch
Teulu'r nefoedd mewn tawelwch
Ar hyd y nos.
O mor siriol gwen a seren
Ar hyd y nos
I oleuo'i chwaer ddaearen
Ar hyd y nos.
Nos yw henaint pan ddaw cystudd
Ond i harddu dyn a'i hwyr dydd
Rhown ein goleu gwan i'n gilydd
Ar hyd y nos.
NP