|
||||||||
Lyr Req: plethyn song lyrics
|
Share Thread
|
Subject: RE: Lyr Req: plethyn song lyrics From: GUEST Date: 10 Aug 14 - 04:40 PM i'm looking for those 2 songs too, but can'y find them. Here's what i have found from the plethyn album Caneuon Gwerin i Blant 4. Fuoch chi 'rioed yn morio? D 1. Fuoch chi 'rioed yn morio? Wel do, mewn padell ffrio, Chwythodd y gwynt fi i'r Eil o Man, A dyna lle bum i'n crio. 2. Crio'n arw, arw, Dim byd ond tywydd garw, Be glywn i'n rhywle uwch fy mhen Ond gwylan wen yn galw. 3. Gwylan wen yn galw – Wel wir mae'n biti garw; Rhaid iti aros hanner dydd Yn llonydd am y llanw. 4. Llanw'n dwad wedyn, A'r gwynt yn troi yn sydyn: Lansio'r badell ar y gro, A nofio'n ôl i Nefyn. 8. Ble'r wyt ti'n myned? Am - Dm 1. "Ble 'r wyt ti'n myned yr eneth ffein ddu?" "Myned i odro, O! Syr." mynte hi. Cytgan: "O'r ddwy foch goch, a'r ddau lygad du, Draw wrth droed y mynydd y gwelais i." 2. "Gaf fi ddod gyda thi, yr eneth ffein ddu?" "Gwnewch fel y mynnoch, O! Syr." mynte hi. (Cytgan) 3. "Gaf fi roi cusan iti yr eneth ffein ddu?" "Beth ydyw hwnnw, O! Syr?" mynte hi. (Cytgan) 4. "Gaf fi dy briodi yr eneth ffein ddu?" "Os bydd Mam yn foddlon, O! Syr?" mynte hi. (Cytgan) 5. "Beth yw dy ffortiwn yr eneth ffein ddu?" "Dim ond a welwch, O! Syr?" mynte hi." (Cytgan) 6. "Yna ni'th briodaf yr eneth ffein ddu." "Ni ofynnais i chwi, O Syr." mynte hi. (Cytgan) 9. Ble'r ei di? C 1."B'le'r ei di, b'le'r ei di yr hen dderyn bach?" "I nythu fry ar y goeden." "Pa mor uchel yw y pren?" "Wel dacw fe uwchben." "O mi syrthi, yr hen dderyn bach." 2. "B'le'r ei di, b'le'r ei di yr hen dderyn bach?" "I rywle y dorri fy nghalon." "Pam yr ei di ffwrdd yn syth?" "Plant drwg fu'n tynnu'r nyth." "O drueni, yr hen ddderyn bach." 13. Mi welais Jac y Do D - G 1. Mi welais Jac y Do yn eistedd ar ben to Het wen ar ei ben a dwy goes bren Ho ho ho ho ho ho. 2. Mi welais iar fach yr ha yn mynd i werthu ffa Fe'i gwerthodd yn rhes ond collodd y pres Ha ha ha ha ha ha 3. Hen fwnci bach o Lŷn a aeth i dynnu'i lun Edrychodd yn syn a chwarddodd fel hyn Hi hi hi hi hi hi. 4. Hen geiliog dandi do a redodd i'r cwt glo Mi welodd gi mawr a gwaeddodd fel cawr Go go go go go go. 5. Daeth mochyn bach i'r dre i chwilio am bwys o de Fe welodd ful bach yn rhowlio mewn sach He he he he he he 19. Hen fenyw fach Cydweli E - G 1. Hen fenyw fach Cydweli yn gwerthi losin du, Yn rhifo deg am ddime, ond unarddeg i mi. Wel dyna'r newydd ore ddaeth i mi, i mi Oedd rhifo deg am ddime, Ond unarddeg i mi. 2. Mi es i Faes y Croese, mi ges i groeso mawr, A fale wedi'u pobi a stôl i eiste' i lawr: Wel dyna'r newydd ore ddaeth i mi, i mi, A fale wedi'u pobi A stôl i eiste' i lawr. 3. Mae gen i fegin newydd a honno'n llawn o wynt; Mae'r byd yn gwenu arnaf fel yn y dyddiau gynt: Wel dyna'r newydd ore ddaeth i mi, i mi, Mae'r byd yn gwenu arnaf Fel yn y dyddiau gynt. 20Cysga di fy mhlentyn tlws Dm - Em 1. Cysga di fy mhlentyn tlws (x 3) Cei gysgu tan y bore (x 2) 2. Cysga di fy mhlentyn tlws Wedi cau a chloi y drws Cysga di fy mhlentyn tlws Cei gysgu tan y bore (x 2). 21. Deryn y bwn o'r Banna C/D 1. Deryn y Bwn o'r Banna Aeth i rodio'r gwylia Lle disgynnodd o ar ei ben, ar ei ben, Ond i bwn o fala. 2. Deryn y Bwn a gododd Y fala i gyd a gariodd Dros y Banna i farchnad CaerI, Ac yno'n daer fe'u gwerthodd. 3. Fala fala filoedd, Fala melyn laweroedd; Y plant yn gweiddi am fala'n groch, fala'n groch, Rhoi dima goch am gannoedd. 4. Deryn y Bwn aeth adra Yn ôl dros ben y Banna: Gwaeddai: "Meistres, O gwelwch y pres, Gwelwch y pres, A ges i wrth werthu gala." 22. Heno, heno A - E 1. Heno, heno, hen blant bach, Heno, heno, hen blant bach, Cytgan: Dime, dime, dime, hen blant bach, Dime, dime, dime, hen blant bach. 2. Gwely, gwely, hen blant bach, Gwely, gwely, hen blant bach, (Cytgan) 3. Fory, fory, hen blant bach, Fory, fory, hen blant bach, (Cytgan) 23. Dacw Mam yn Dwad D 1. Dacw mam yn dwad ar ben y Gamfa Wen, Rhywbeth yn ei ffedog, a phiser ar ei phen. Y fuwch yn y beudy yn brefu am y llo, A'r llo'r ochor arall yn chware Jim Cro Cytgan: Jim Cro Crystyn, Wan, tŵ, ffôr, A'r mochyn bach yn eistedd mor ddel ar y stôl. 2.Dafi bach a finna yn mynd i Aberdâr, Dafi'n mofyn ceiliog, a finna'n mofyn giâr, Dafi bach a finna yn mynd i ffair Llannonn, Dafi'n hela dimai a finna'n prynu ffon. (Cytgan) 3.Shoni brica moni yn berchen buwch a llo, A gafar fach a mochyn a cheiliog go-go-go. A cheiliog bach y dandi yn crio trwy y nos Eisie benthyg ceiniog i brynu gwasgod goch. (Cytgan) 25. Bonheddwr mawr o'r Bala D - F 1. Boneddwr mawr o'r Bala Ryw ddiwrnod aeth i hela Ar gaseg denau ddu (x2) Cytgan: Ho-ho-ho-ho, ho-ho-ho-ho, Ar gaseg denau ddu (x2) 2.Carlamodd yr hen gaseg O naw o'r gloch tan ddeuddeg Heb unwaith godi pry. Cytgan: Ho-ho-ho-ho, ho-ho-ho-ho, Heb unwaith godi pry (x2) 3. O'r diwedd cododd lwynog Yn ymyl tý cymdog, A'r corn a rododd floedd. (Cytgan) 4. Yr holl fytheid redasant A'r llwynog coch ddaliasant, Ond ci rhyw ffarmwr oedd. (Cytgan) |
Subject: Lyr Req: plethyn song lyrics From: GUEST,Paul Jones Date: 25 Sep 12 - 07:44 PM Hi I'm looking for lyrics sung by Plethyn, the songs I'm looking for are "mi welais ddwy lygoden", "I ysgafnhau y gwaith" and "si-so gorniog" I'm learning welsh at the min and its highly appreciated if anyone has the lyrics, can't find them at all online :/ |
Share Thread: |
Subject: | Help |
From: | |
Preview Automatic Linebreaks Make a link ("blue clicky") |