|
||||||||||||||
Lyr Req: Wrth y Ffynnon (Ar Log) Related threads: 2023 Obit: Dave Burns (Ar Log & The Hennessys) (10) Mining Songs: Last Pit in the Rhondda-Dave Burns (19) Help: Ar Log - Still going? (5)
|
Share Thread
|
Subject: Lyr Req: Wrth y Ffynnon (Ar Log) From: Tradsinger Date: 29 Feb 08 - 06:58 AM Does anyone have the words (in Welsh) of this song, recorded by Ar Log? |
Subject: Lyr Add: WRTH Y FFYNNON From: Jim Dixon Date: 02 Mar 08 - 06:30 PM Is this it? Copied from Cymru'r plant, 1905. (There could be some typos here.) WRTH Y FFYNNON. WRTH y ffynnon fechan loew, Ar y bryn yng Nghymru fad, Mewn unigrwydd yn myfyrio, Treuliais oriau llawn mwynhad; Gwelaf brydferth ddarlun purdeb, A sirioldeb yn ei gwedd, Clvwaf ei byw ffrydiau'n sisial Fel rhyw fwyn genhadon hedd. Wrth y ffynnon fechan loew, Ar y bryn, o dwrf y byd, Lle mae natur a'i thlysineb Yn gwir ysbrydoli'm mryd; Tra y meddwl chwai yn crwydro Eaug faes y bywyd gwyn, Teimlais awydd byw a marw Wrth y ffynnon ar y bryn. Wrth y ffynnon fechan loew, Ar y bryn, yn ymyl nef, Gwelaf flrydiau pur yn treiglo Fel o dan ei orsedd Ef; Brysio wnant i ddisychedu, Ac i olchi'r du yn wyn, Felly hefyd ffrydiau bywiol Ffynnon hedd Calfaria fryn. Blaen y Cwm, Llanelltyd. GWYNEDD FYCHAN. |
Subject: RE: Lyr Req: Wrth y Ffynnon (Ar Log) From: sian, west wales Date: 03 Mar 08 - 10:04 AM Oops. Answered your PM with the words but didn't notice you had started a thread as well. Therefore ... Ar y ffordd wrth fynd i'r ffynnon Gwelais ferch a'i phiser dŵr, Pan y'm gwelodd, lanc yn gwenu, "Hwn," medd hi, "yw'm darpar ŵr." Glas ei llygaid fel y cefnfor, Du ei gwallt fel caddug nos, Ac fel rhosyn gwyllt Mehefin Ydoedd lliw ei dwyrydd goch. Ar y ffordd wrth fynd i'r ffynnon Cwrddyd wnaethom dro 'r ôl hyn, Rhoddias iddi serch fy nghalon Cydiodd hithau ynddo'n dyn. Sôn am allor, sôn am briodas, Sôn am ddau yn newid byd, Syllu 'lawr i ddrych y ffynnon; Gweld dyfodol gwyn i gyd. Ar y ffordd wrth fynd i'r ffynnon Gwelais hi yr olaf dro, Fe ddaeth gwŷs y gâd i minnau, Gŵys i fynd o'm hannwyl fro. Ffarwel gariad, ffarwel gariad, Cyn bo hir dof eto'n ôl, Ond ni welais i mo'r eneth Wrth y ffynnon ar y ddôl. Hope the ^s come out OK. And as I said in the PM: I love this song. The Farewells at the end always choke me up! Seems to me I remember hearing that Dafydd and Gwyndaf Robert (of Ar Log) learned this song (or maybe just the first verse) from their father. I suppose Dafydd (now MD of Sain) could tell you. sian |
Subject: RE: Lyr Req: Wrth y Ffynnon (Ar Log) From: Tradsinger Date: 08 Mar 08 - 01:28 PM Thanks to both. The song (the version from Sian) is now getting integrated into our reportoire. Diolch Gwilym |
Share Thread: |
Subject: | Help |
From: | |
Preview Automatic Linebreaks Make a link ("blue clicky") |